Datganiad hygyrchedd ar gyfer Wedi gwerthu cerbyd i’r fasnach foduron

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r gwasanaeth ar gyfer wedi gwerthu cerbyd i'r fasnach foduron

Rheolir y wefan hon gan DVLA. Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, dylech chi allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i'r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w deall.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: vehicleservices@dvla.gov.uk

Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon mewn fformat gwahanol megis PDF, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille hygyrch, e-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt trwy:

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi mewn 3 diwrnod.

Gweithdrefn gorfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ’rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae DVLA wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.2.

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â'r safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

WCAG Lefel AAA Blaenoriaeth Isel

Cyferbynnedd (Uwch)

Mae elfennau testun yn methu â bodloni'r trothwy gofynnol ar gyfer cyferbynnedd uwch. I fodloni canllawiau WCAG 2.2 ar gyfer cyferbynnedd uwch, y gymhareb cyferbynnedd lleiaf yw 7:1 (ar hyn o bryd mae'n 4.8:1).

Cyferbynnedd lliw Uwch

Methodd y lliwiau a ddefnyddiwyd fodloni'r gymhareb ofynnol i basio meini prawf llwyddiant WCAG 2.2 AAA.

Nid yw lliw testun y ddolen [adborth] yn erbyn lliw'r cefndir yn bodloni'r gymhareb a argymhellir i basio WCAG 2.2 AAA. Y gymhareb ar hyn o bryd yw 5.2:1. Y gymhareb ddisgwyliedig yw o leiaf 7:1.

Dolen yn agor mewn tab newydd

Canfuwyd dolenni a oedd yn agor mewn tab newydd ond nad oeddent yn hysbysu defnyddwyr am y swyddogaeth hon.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 14 Tachwedd 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 14 Tachwedd 2025.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 22 Hydref 2025 yn erbyn y safon AA WCAG 2.2. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.